Gwelliannau hirdymor

Mae tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru yn penderfynu rhai dadleuon sydd yn berthnasol i welliannau hirdymor.

Ceisiadau

  • Cais i gymeradwyo gwelliant hirdymor, lle mae tenant yn gwneud cais i’r tribiwnlys i gymeradwyo gwelliannau hirdymor (Ffurflen Gais AG07
     
  • Ymateb i gais, bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’r cais at y landlord er mwyn cael barn ar y cais (Ffurflen Gais AG08)  
     
  • Cais i farnu bod y landlord wedi methu â chyflawni gwelliannau o fewn amser rhesymol, lle mae tenant yn gwneud cais i’r tribiwnlys er mwyn barnu bod landlord wedi methu â chyflwyno gwelliannau o fewn amser rhesymol (Ffurflen Gais AG09)  
     
  • Ymateb i gais, bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’r cais at y landlord er mwyn cael barn ar y cais (Ffurflen Gais AG10).

Mae ein llyfrynnau canllaw ar wneud ceisiadau a derbyn ceisiadau yn cynnwys gwybodaeth bwysig am derfynau amser a gweithdrefnau’r tribiwnlys.