Cyfarpar sefydlog

Mae Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru yn pennu rhai anghydfodau ynghylch cyfarpar gosod.

Ceisiadau

  • Cais am gyfarwyddyd i ddarparu cyfarpar sefydlog, lle mae tenant yn gwneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn yn cyfarwyddo’r landlord i ddarparu/newid/trwsio cyfarpar sefydlog (Ffurflen Gais AG05)
     
  • Ymateb i gais, bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’r cais at y landlord er mwyn cael barn ar y cais (Ffurflen Gais AG06)

Mae ein llyfrynnau canllaw ar wneud ceisiadau a derbyn ceisiadau yn cynnwys gwybodaeth bwysig am derfynau amser a gweithdrefnau’r tribiwnlys.