Draenio tir

Mae Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru yn gwneud cyfraniad pwysig at ddatrys anghydfodau yn ymwneud â draenio tir amaethyddol o dan Ddeddf Draenio Tir 1991.

Gallwch lawrlwytho ffurflenni cais a llyfrynnau canllaw drwy ddefnyddio’r dolenni isod. Cysylltwch â ni os cewch drafferth yn lawrlwytho’r ffurflenni a’r llyfrynnau neu os hoffech chi eu derbyn mewn fformat gwahanol.

Ceisiadau

  • Adfer neu wella ffosydd, lle mae perchnogion a meddianwyr tir (sydd wedi cael ei ddifetha neu nad oes modd ei wella drwy ddraenio oherwydd bod cymydog yn esgeuluso’i ffosydd yntau) yn gwneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn i gyflawni gwaith ffosydd (Ffurflen Gais LD01)
     
  • Ymateb i’r cais, bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’r cais ac unrhyw adroddiad technegol a dderbyniodd y tribiwnlys at yr Ymatebydd i ofyn am ei farn ar y cais ac argymhellion yr adroddiad (Ffurflen Gais LD02)
     
  • Ymateb i’r cais, bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’r adroddiad technegol a dderbyniodd y tribiwnlys at yr ymgeisydd i ofyn am ei farn ar argymhellion yr adroddiad technegol (Ffurflen Gais LD03)
     
  • Amrywio gorchymyn tribiwnlys, lle mae’r tribiwnlys wedi gwneud gorchymyn i gyflawni gwaith ffosydd ac mae’r ymgeisydd neu’r ymatebydd am wneud cais i amrywio’r gorchymyn hwnnw (Ffurflen Gais LD04)

Mae ein llyfrynnau canllaw ar wneud ceisiadau a derbyn ceisiadau yn cynnwys gwybodaeth bwysig am derfynau amser a gweithdrefnau’r tribiwnlys