Rydym yn ymdrin ag anghydfod sy'n ymwneud â:
Coronafeirws (COVID-19)
Yn sgil pandemig COVID-19 - mae gan y Tribiwnlys fynediad cyfyngedig iawn, os o gwbl, at eitemau a ddanfonir trwy'r post. A allwch sicrhau bod unrhyw ddogfennau (gan gynnwys ffurflenni cais a chyflwyniadau ysgrifenedig) sy'n ofynnol gan y Tribiwnlys yn cael eu hanfon trwy e-bost at: AgriculturalLandTribunalWales@llyw.cymru
Nid yw'r Tribiwnlys yn bwriadu rhestru unrhyw wrandawiadau wyneb i wyneb yn y dyfodol agos. Bydd Gwrandawiadau sydd wedi’u trefnu yn cael eu cynnal gan ddefnyddio system rithiol, gydag unrhyw archwiliadau safle yn cael eu trefnu fesul achos.
Bydd Gorchmynion Cydsynio a Gwrandawiadau Cyfarwyddo yn parhau i gael eu cynnal drwy gynhadledd ffôn neu unrhyw ddulliau eraill o gyfathrebu o bell.

Draenio tir
- Adfer neu wella ffosydd

Cytundebau tenantiaeth
- Rhybudd i ymadael â daliad
- Olyniaeth yn dilyn marwolaeth
- Olyniaeth yn dilyn ymddeoliad

Amaethyddol
- Hwsmonaeth wael
- Llosgi grug neu laswellt
- Cyfarpar sefydlog
- Gwelliannau hirdymor
- Gardd fasnachol
Ein cefndir
Mae TTA Cymru, ei aelodau a'i benderfyniadau yn annibynnol ar y Llywodraeth. Llywodraeth Cymru sy'n darparu cymorth gweinyddol a chyllid ar gyfer y tribiwnlys.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth rydych yn chwilio amdano.
Ymweld â safle
Gaill y Tribiwnlys ymweld â thir sy’n eiddo i ac yn cael ei feddiannu gan unrhyw barti neu dir sy;n berthnasol i achos.