Penderfyniadau

Mae penderfyniadau Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru o fis Ebrill 2012 ymlaen i'w gweld ar-lein.

Dewiswch y math o achos i weld penderfyniadau:

Gweld penderfyniadau blaenorol

Gallwch weld penderfyniadau a wnaed cyn mis Ebrill 2012 yn swyddfa Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru. Mae modd gwneud copi o'r dogfennau, a gall y swyddfa godi tâl am hyn.

Cysylltwch â ni er mwyn trefnu i weld penderfyniadau.

Ceisiadau i dynnu penderfyniad o'r wefan

Os ydych chi am dynnu penderfyniad penodol o'r wefan, rhaid gwneud cais ysgrifenedig i Dribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru. Dylai'r cais nodi'r rhesymau dros dynnu'r penderfyniad hwn. Bydd cadeirydd y tribiwnlys yn ystyried unrhyw geisiadau i dynnu penderfyniad fesul achos unigol.