Rheoliadau

Sefydliad statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Amaeth 1947 sydd ag awdurdodaeth dros ardal ddaearyddol Cymru yw Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru (TTA Cymru).

Mae'r tribiwnlys yn annibynnol ar y llywodraeth. Mae TTA Cymru yn gwneud cyfraniad pwysig at ddatrys anghydfodau a phroblemau eraill rhwng landlordiaid a thenantiaid amaethyddol sy'n codi o gytundebau tenantiaeth o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986. Mae TTA Cymru hefyd yn datrys anghydfodau yn ymwneud â draenio tir amaethyddol o dan Ddeddf Draenio Tir 1991.    

Mae'r rheoliadau sy'n rheoli'r tribiwnlys wedi'u rhestru isod:

  • Gorchymyn Tribiwnlysoedd Tir Amaethyddol (Ardal) 1982 (OS 1982/97)
    Ar gael i'w ddarllen ar-lein ac mewn fformat y gellir ei argraffu ar y wefan swyddogol ar gyfer deddfwriaeth y DU
     
  • Deddf Draenio Tir 1991 (Adrannau 28 a 30)
    Ar gael i'w ddarllen ar-lein ac mewn fformat y gellir ei argraffu ar y wefan swyddogol ar gyfer deddfwriaeth y DU
     
  • Gorchymyn Tribiwnlysoedd Tir Amaethyddol (Rheolau) 2007
    Ar gael i'w ddarllen ar-lein ac mewn fformat y gellir ei argraffu ar y wefan swyddogol ar gyfer deddfwriaeth y DU