Gwrandawiadau ac ymweliadau safle

Gallwch lawrlwytho llyfrynnau canllaw am wrandawiadau ac ymweliadau safle a ffurflenni presenoldeb ar gyfer gwrandawiad tribiwnlys drwy’r dolenni isod.

Os ydych chi’n cael trafferth lawrlwytho neu eisiau copi mewn fformat arall, cysylltwch â ni.

Llyfrynnau Canllaw

  • Gwrandawiadau, sy’n esbonio beth sy’n digwydd mewn gwrandawiad tribiwnlys (Llyfryn Canllaw ALT-04)
     
  • Ymweliadau safle, sy’n esbonio beth sy’n digwydd pan fydd panel tribiwnlys yn ymweld â daliad (Llyfryn Canllaw ALT-05)

Ffurflenni Presenoldeb

  • Ffurflen bresenoldeb ymgeisydd, rhaid i’r ymgeisydd roi gwybod i’r tribiwnlys pwy fydd yn mynychu’r gwrandawiad (Ffurflen Gais ALT-06)
     
  • Ffurflen bresenoldeb ymatebydd, rhaid i’r ymatebydd roi gwybod i’r tribiwnlys pwy fydd yn mynychu’r gwrandawiad (Ffurflen Gais ALT-07)