Llosgi grug neu laswellt

Mae Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru yn pennu rhai anghydfodau ynghylch llosgi grug neu laswellt.

Ceisiadau

  • Cais am gyfarwyddyd i osgoi neu lacio cyfamod yn erbyn llosgi grug neu laswellt, lle mae tenant yn gwneud cais i’r tribiwnlys i geisio bod cyfamodau/amodau/cytundebau yn erbyn llosgi grug neu laswellt yn; cael eu hosgoi’n gyfan gwbl, eu llacio’n barhaol neu eu llacio am gyfnod penodol (Ffurflen Gais AG03 ) 
     
  • Ymateb i gais, bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’r cais at y landlord er mwyn cael barn ar y cais (Ffurflen Gais AG04).

Mae ein llyfrynnau canllaw ar wneud ceisiadau a derbyn ceisiadau yn cynnwys gwybodaeth bwysig am derfynau amser a gweithdrefnau’r tribiwnlys.