Gwneud ceisiadau a derbyn iddynt

Mae ein llyfrynnau canllaw yn cynnwys manylion am y math o anghydfodau rydym yn ymdrin â nhw a sut i wneud cais.

Mae’r llyfryn canllawiau yn cynnwys gwybodaeth bwysig am ba geisiadau y gellir eu gwneud, a oes terfyn amser ar gyfer cyflwyno cais a gweithdrefnau’r triwbiwnlys.

Gellir lawrlwytho’r llyfrynnau canllawiau drwy ddefnyddio’r dolenni isod. Cysylltwch â ni os yw lawrlwytho unrhyw ffurflen neu lyfryn yn peri problemau neu eich bod am eu cael mewn fformat arall.

Draenio tir

  • Gwneud cais, egluro sut i wneud cais o dan Ddeddf Draenio Tir 1991 am geisiadau draenio tir (Llyfryn Canllawiau ALT-03)

Cytundebau tenantiaeth a cheisiadau amaethyddol

  • Gwneud cais, egluro sut i wneud cais am gytundebau tenantiaeth a cheisiadau amaethyddol o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Llyfryn Canllawiau ALT-01)
     
  • Derbyn cais, egluro sut i ymateb i gais am gytundebau tenantiaeth a cheisiadau amaethyddol o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Llyfryn Canllawiau ALT-02)