Amdanom

Sefydliad statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 1947 yw Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru (TTA Cymru).

Ffeithiau allweddol:

  • Tribiwnlys annibynnol a sefydlwyd o dan Adran 73 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947 yw TTA Cymru. 
     
  • Mae gan y tribiwnlys awdurdodaeth dros ardal ddaearyddol Cymru yn unol â Gorchymyn Tribiwnlysoedd Tir Amaethyddol (Ardal) 1982 (OS 1982/97). 
     
  • Ariennir y tribiwnlys gan Lywodraeth Cymru, ond mae'r tribiwnlys, ei aelodau a'i benderfyniadau yn annibynnol ar y Llywodraeth. 
     
  • Mae dwy ran i'r tribiwnlys; yr ysgrifenyddiaeth ac aelodau'r tribiwnlys. Mae'r ddwy ochr yn cydweithio ond yn gwneud dyletswyddau gwahanol wrth ymdrin â cheisiadau. Swyddogaeth aelodau'r tribiwnlys yw clywed ceisiadau a phenderfynu arnynt. Swyddogaeth yr ysgrifenyddiaeth yw cyflawni dyletswyddau gweinyddol yn ymwneud â phrosesu ceisiadau ac apeliadau.