Polisi preifatrwydd

Pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu gennym?

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd ac yn ddefnyddiwr anhysbys o'r wefan, nid yw gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn storio nac yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch ond, yn hytrach, yn cofnodi eich cyfeiriad IP sy'n cael ei adnabod yn awtomatig gan weinydd y we. Fe'i gelwir yn 'ffeil cofnodi' ac rydym yn ei defnyddio i gasglu ynghyd ystadegau sy'n ymwneud â defnyddio'r wefan.

Nid yw'r wefan hon yn defnyddio 'cookies' i gasglu gwybodaeth am ddefnyddwyr.

Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth oddi wrth y rheini sy'n ymweld â'r wefan hon: adborth; a manylion tanysgrifio trwy e-bost.

Adborth

Rydym yn croesawu eich sylwadau. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu ag adrannau eraill o'r llywodraeth i gael gafael ar yr wybodaeth honno. Os yw eich cwestiwn yn dechnegol, efallai y bydd yn rhaid i ni ei anfon at ein cyflenwyr technoleg. Ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un wrth ddelio â’ch ymholiad, oni bai y byddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Ar ôl i ni ateb eich ymholiad, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges at ddibenion archwilio.

Tanysgrifio ar gyfer negeseuon e-bost

Mae rhai rhannau o’r wefan hon yn cynnig diweddariadau drwy’r e-bost. I dderbyn yr wybodaeth hon, bydd angen i chi gofrestru gan nodi eich cyfeiriad e-bost; enw defnyddiwr a chyfrinair. Nid ydym yn rhannu’r wybodaeth a ddarperir gennych â thrydydd partïon, ac rydym yn diogelu’r wybodaeth yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.

Y Ddeddf Diogelu Data

O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Rydym yn defnyddio’r technolegau a’r feddalwedd amgryptio ddiweddaraf i ddiogelu eich data, ac yn cadw at safonau diogelwch llym er mwyn sicrhau na cheir mynediad ato heb awdurdod. Ni fyddwn yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti nac i adrannau eraill o'r llywodraeth.

Diogelu data

Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod data personol yn ôl Deddf 'Diogelu Data' 1998.  Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi weithiau trwy'r post, ffôn, ffacs neu ebost ynglŷn â nwyddau a gwasanaethau allai fod o ddiddordeb ichi.  O roi gwybod inni sut mae cysylltu â chi, byddwch chi'n rhoi caniatâd inni gysylltu â chi ar gyfer marchnata o'r fath.

Defnyddio'r wefan heb angen rhoi enw

Cewch chi ddarllen ein gwefan i gyd heb angen mewngofnodi.

Casglu gwybodaeth yn awtomatig

Fel pob gwefan, bydd y wefan hon yn cofnodi'r tudalennau sydd wedi'u darllen ond heb adnabod y darllenwyr.  Ar ben hynny, bydd y sustem fewngofnodi'n casglu amryw ddata megis eich sustem weithredu, eich porydd a chydraniad eich sgrîn.  Bydd yn nodi'ch cyfeiriad IP hefyd, er na fydd yn ei ddefnyddio i'ch adnabod chi'n bersonol.

Dim ond i ddibenion ystadegol y byddwn ni'n casglu'r data hyn, heb enwi neb.  Fydd y sustem ddim yn casglu unrhyw ddata eraill.  Eiddo Llywodraeth Cymru fydd y data sydd wedi'u casglu drwy'r amser, a dim ond i gynnal a gwella'r wefan y byddwn ni'n eu defnyddio.

Rhoi manylion o'ch gwirfodd

Fyddwn ni ddim yn cadw gwybodaeth bersonol am bobl sy'n defnyddio'r wefan oni bai eu bod wedi rhoi eu manylion o'u gwirfodd trwy ebost ac wrth ymholi am ein gwasanaethau neu gyflwyno cais am wasanaeth.  Mewn achosion o'r fath, dim ond i roi'r wybodaeth neu'r gwasanaeth y gofynnoch chi amdano y byddwn ni'n defnyddio'r data personol a roesoch chi i Llywodraeth Cymru.

Hawl i weld eich gwybodaeth a chysylltu â ni

Os hoffech weld cofnod o unrhyw ohebiaeth yr ydych wedi'i hanfon atom, neu os bydd gennych ymholiad neu g w yn am y polisi preifatrwydd hwn neu am y wefan hon, cysylltwch â'r gwefeistr trwy anfon e-bost i'r cyfeiriad a ganlyn Webmaster@wales.gsi.gov.uk

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Os yw’r polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Byddwn yn adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau y gwyddoch bob amser pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.