Ceisiadau am ganiatâd

Mae Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru yn penderfynu ar anghydfodau penodol sy’n ymwneud â rhybudd i ymadael â daliad.

Ceisiadau

  • Cais am ganiatâd i weithredu rhybudd i ymadael (adran 26(1) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986), lle mae’r landlord yn ceisio gorchymyn cydsynio gan y tribiwnlys er mwyn gweithredu rhybudd i ymadael sydd naill ai wedi’i gyflwyno neu y bwriedir ei gyflwyno i’r tenant (Ffurflen Gais TA01)
     
  • Cais am ganiatâd i weithredu rhybudd i ymadael (adran 28(2) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986), lle mae’r landlord yn ceisio gorchymyn cydsynio gan y tribiwnlys er mwyn gweithredu rhybudd i ymadael sydd naill ai wedi’i gyflwyno neu y bwriedir ei gyflwyno i’r tenant (Ffurflen Gais TA02)
     
  • Cais am ganiatâd i weithredu rhybudd i ymadael (adran 28(2) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986), lle mae’r landlord yn ceisio gorchymyn cydsynio gan y tribiwnlys er mwyn gweithredu rhybudd i ymadael sydd naill ai wedi’i gyflwyno neu y bwriedir ei gyflwyno i’r tenant (Ffurflen Gais TA03)
     
  • Ymateb i gais, mewn achosion tenantiaeth, bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’r cais at y tenant er mwyn cael barn ar y cais  (Ffurflen Gais TA04)
     
  • Olyniaeth yn dilyn marwolaeth, cais am ganiatâd i weithredu rhybudd i ymadael, lle mae’r landlord yn ceisio gorchymyn cydsynio gan y tribiwnlys i weithredu rhybudd i ymadael a gyflwynwyd i gynrychiolwyr y diweddar denant (Ffurflen Gais TA08)
     
  • Ymateb i gais, mewn achosion tenantiaeth bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’r cais at gynrychiolydd y diweddar denant er mwyn cael barn ar y cais (Ffurflen Gais TA09)

Mae ein llyfrynnau canllaw ar wneud ceisiadau a derbyn ceisiadau yn cynnwys gwybodaeth bwysig am derfynau amser a gweithdrefnau’r tribiwnlys.