Mae tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru yn penderfynu rhai dadleuon sydd yn berthnasol i olyniaeth yn dilyn ymddeoliad.
    Ceisiadau
- Cais am gyfarwyddyd yn rhoi’r hawl i denantiaeth daliad amaethyddol, lle mae unigolyn cymwys yn gwneud cais i’r tribiwnlys er mwyn ceisio cael cyfarwyddyd i olynu tenantiaeth person sydd wedi ymddeol (Ffurflen Gais TA14)
 - Ymateb i gais, mewn achosion tenantiaeth, bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’r cais at y landlord er mwyn cael barn ar y cais (Ffurflen Gais TA15)
 - Hysbysiad o gais am hawl i denantiaeth daliad amaethyddol, lle mae unigolyn cymwys yn gwneud cais i’r tribiwnlys er mwyn ceisio cael cyfarwyddyd i olynu tenantiaeth person sydd wedi ymddeol. Dylai’r hysbysiad gael ei gyflwyno i’r landlord a phawb â buddiant (Ffurflen Gais TA16)
 
Mae ein llyfrynnau canllaw ar wneud ceisiadau a derbyn ceisiadau yn cynnwys gwybodaeth bwysig am derfynau amser a gweithdrefnau’r tribiwnlys.