Mae Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru yn penderfynu ar anghydfodau penodol sy’n ymwneud â olyniaeth yn dilyn marwolaeth.
Ceisiadau
- Cais am gyfarwyddyd sy’n rhoi’r hawl i denantiaeth daliad amaethyddol, lle mae unigolyn cymwys yn gwneud cais i’r tribiwnlys er mwyn ceisio cael cyfarwyddyd i olynu tenantiaeth person sydd wedi marw (Ffurflen Gais TA10)
- Ymateb i gais, bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’r cais at y landlord er mwyn cael barn ar y cais (Ffurflen Gais TA11)
- Hysbysiad o gais am hawl i denantiaeth daliad amaethyddol, lle mae unigolyn cymwys yn gwneud cais i’r tribiwnlys er mwyn ceisio cael cyfarwyddyd i olynu tenantiaeth person sydd wedi marw, dylid anfon yr hysbysiad hwn at y landlord a’r holl bobl â buddiant (Ffurflen Gais TA12)
- Ymateb i gais a wnaed gan ymgeisydd arall am gyfarwyddyd sy’n rhoi’r hawl i denantiaeth daliad amaethyddol, lle mae unigolyn cymwys arall yn gwneud cais i dribiwnlys er mwyn ceisio cael cyfarwyddyd i olynu tenantiaeth person sydd wedi marw, bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’r cais at yr ymgeisydd arall er mwyn cael barn ar y cais (Ffurflen Gais TA13)
- Ffurflenni cais am olyniaeth yn dilyn marwolaeth a chaniatâd i weithredu rhybudd i ymadael, ar gael i’w lawrlwytho ar dudalen rhybudd i ymadael y wefan hon.
Mae ein llyfrynnau canllaw ar wneud ceisiadau a derbyn ceisiadau yn cynnwys gwybodaeth bwysig am derfynau amser a gweithdrefnau’r tribiwnlys.