Amrywiadau a gohiriadau

Mae Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru yn penderfynu ar anghydfodau penodol sy’n ymwneud â amrywiadau a gohiriadau.

Ceisiadau

  • Cais i ohirio gweithredu rhybudd i ymadael, lle mae unigolyn cymwys yn gwneud cais i’r tribiwnlys i ohirio gweithredu rhybudd i ymadael a gyflwynwyd i’r tenant gan y landlord (Ffurflen Gais TA05)
     
  • Ymateb i gais, bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’r cais at y landlord er mwyn cael barn ar y cais (Ffurflen Gais TA06)
     
  • Amrywio neu ddirymu amod a osodwyd gan dribiwnlys, mewn achosion tenantiaeth lle mae’r tribiwnlys wedi gwneud gorchymyn a lle mae’r unigolyn cymwys yn dymuno ceisio amrywio neu ddirymu amod y gorchymyn hwnnw (Ffurflen Gais TA07)

Mae ein llyfrynnau canllaw ar wneud ceisiadau a derbyn ceisiadau yn cynnwys gwybodaeth bwysig am derfynau amser a gweithdrefnau’r tribiwnlys