Pryd allaf i wneud cais i’r tribiwnlys?
Mae Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 yn pennu terfynau amser pendant ar gyfer gwneud rhai mathau o geisiadau. Nid oes modd ymestyn y terfynau amser hyn.
Gallwch wneud cais i’r Tribiwnlys o dan Ddeddf Draenio Tir 1991 unrhyw bryd.
Sut ydw i’n gwneud cais i’r tribiwnlys?
Er mwyn gwneud cais, rhaid i chi lenwi’r ffurflen gais berthnasol a’i hanfon i Dribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru. Gallwch anfon eich cais drwy’r post neu e-bost.
Gallwch lawrlwytho ffurflenni cais a llyfrynnau canllaw o wefan y Tribiwnlys. Fel arall, os hoffech i ni anfon ffurflen gais neu lyfryn canllaw atoch, cysylltwch â swyddfa’r Tribiwnlys.
Beth sydd angen i mi ei ddweud wrthych?
Mae adran ganllaw’r ffurflen gais yn disgrifio’r wybodaeth a’r dogfennau ychwanegol y dylai ceiswyr eu hanfon gyda’u cais. Gall methu â chynnwys gwybodaeth a dogfennau o’r fath ohirio’r achos.
Os oes gennych chi wybodaeth neu dystiolaeth sy’n cefnogi eich cais, dylech ei chynnwys wrth anfon eich cais.
A oes rhaid i mi dalu ffi i’r tribiwnlys?
Nid oes rhaid i chi dalu ffi am wneud cais i’r Tribiwnlys.
Rhaid i bartïon dalu unrhyw gostau sy’n codi o ganlyniad i wneud cais e.e. costau teithio i fynychu’r gwrandawiad.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i’r Tribiwnlys dderbyn fy nghais?
Bydd y tribiwnlys yn cadarnhau ei fod wedi derbyn eich cais. Bydd y tribiwnlys yn cofrestru eich achos o fewn 10 diwrnod gwaith neu’n ysgrifennu atoch i ofyn am fwy o wybodaeth.
Ar ôl i’ch achos gael ei gofrestru, anfonir copi o’r Cais at y parti a enwir fel yr Ymatebydd.
Beth os oes gen i anghenion ychwanegol?
Gofalwch eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion ychwanegol sydd gennych wrth anfon eich cais atom. Er enghraifft, dylech ddweud os ydych chi angen arwyddwr neu gyfieithydd yn y gwrandawiad neu os oes angen unrhyw drefniadau ychwanegol fel y gallwch chi ddod i’r gwrandawiad.
A allaf i anfon cais i’r tribiwnlys mewn e-bost?
Mae Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru yn derbyn ceisiadau a gohebiaeth drwy e-bost.
A oes rhaid i mi anfon dogfennau gwreiddiol gyda’r cais?
Nid oes rhaid i chi anfon dogfennau gwreiddiol. Yn y lle cyntaf, darparwch lungopïau. Os bydd gwrandawiad, efallai y gofynnir i chi ddarparu’r dogfennau gwreiddiol.
A oes dyddiad cau ar gyfer gwneud cais?
Mae’r llyfrynnau canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am geisiadau, terfynau amser a gweithdrefnau’r tribiwnlys.
A all fy nghynrychiolydd anfon a derbyn dogfennau ar fy rhan?
Gall eich cynrychiolydd anfon y cais ac unrhyw wybodaeth ar eich rhan.
Os yw’r ffurflen gais wedi’i llofnodi gan unrhyw un heblaw’r ymgeisydd, dylai’r unigolyn hwnnw nodi ym mha rinwedd neu o dan ba awdurdod y mae wedi gwneud hynny. Dylid cynnwys copi o’r awdurdod ysgrifenedig gyda’r cais.
A all y tribiwnlys argymell unrhyw gynrychiolwyr i’m helpu gyda’m cais?
Fel corff barnwrol, ni all y tribiwnlys argymell cynrychiolwyr na rhoi cyngor ar geisiadau.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn dewis tynnu fy nghais yn ôl?
Gall yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd dynnu cais yn ôl unrhyw bryd. Dylid hysbysu’r tribiwnlys yn ysgrifenedig.
Beth fydd yr Ymatebydd yn ei wneud gyda’m cais?
Ar ôl i’ch cais gael ei anfon ymlaen at y parti a enwir fel yr Ymatebydd, bydd rhaid iddo ymateb o fewn cyfnod penodol. Caiff copi o unrhyw ymatebion a dderbynnir ei anfon atoch.
Oni bai bod y cais yn cael ei dynnu’n ôl neu ei ddatrys trwy gytundeb, bydd y mater yn mynd ymlaen i wrandawiad lle bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad.
A oes yna derfynau amser ar gyfer ymateb i’r tribiwnlys?
Cewch wybod am unrhyw derfynau amser ar gyfer ymateb i’r tribiwnlys.
Gall y terfynau amser hyn gael eu hymestyn, ond dim ond os bydd cadeirydd y tribiwnlys o’r farn bod yna resymau da dros wneud hynny. Mae Gorchymyn Tribiwnlysoedd Tir Amaethyddol (Rheolau) 2007 yn esbonio beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn ymateb i gais o fewn yr amser a ganiateir gan y rheolau.
A fydd fy nghais yn cael ei gadw’n gyfrinachol?
Dim ond y bobl sy’n rhan o’r achos fydd yn cael gweld y wybodaeth a ddarperir i’r tribiwnlys mewn cysylltiad â chais.
Fodd bynnag, mae gwrandawiadau’n cael eu cynnal yn gyhoeddus. Pan fydd achos yn mynd ymlaen i wrandawiad ffurfiol, bydd yr holl wybodaeth a ddarparwyd gan unrhyw barti yn dod yn wybodaeth gyhoeddus oni bai bod yna resymau eithriadol sy’n golygu y byddai’n well i’r achos gael ei gynnal yn breifat.
Sut bydd dogfennau’n cael eu hanfon ataf?
Caiff yr holl ddogfennau gweithdrefnol eu hanfon atoch trwy wasanaeth Dosbarthiad a Gofnodwyd neu Ddosbarthiad Arbennig y Post Brenhinol.
A allaf i wneud fy nghais yn y Gymraeg?
Mae Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru yn derbyn ceisiadau a gohebiaeth yn y Gymraeg.
Gallwch lawrlwytho ffurflenni cais a llyfrynnau canllaw o wefan y Tribiwnlys. Fel arall, os hoffech i ni anfon ffurflen gais neu lyfryn canllaw atoch, cysylltwch â swyddfa’r Tribiwnlys.
A all y tribiwnlys roi cyngor i mi?
Corff barnwrol annibynnol yw’r tribiwnlys, felly mae’n rhaid iddo fod yn ddiduedd wrth fynd i’r afael ag anghydfodau. Gall ysgrifenyddiaeth y tribiwnlys ddarparu cyngor ar weithdrefnau’r tribiwnlys; er hynny, ni all y tribiwnlys ddarparu canllawiau neu gyngor cyfreithiol ar sut i gyflwyno achos.
Beth os bydd rhan o’m tir yng Nghymru a rhan arall yn Lloegr?
Os bydd rhan o’ch tir yng Nghymru a rhan arall yn Lloegr, y tribiwnlys ar gyfer yr ardal lle mae’r rhan fwyaf o’ch tir fydd yn ystyried y cais.
Faint o amser ar ôl i’r tribiwnlys dderbyn y cais y mae’n cyhoeddi penderfyniad?
Bydd yr amserlen yn amrywio yn dibynnu ar y math o achos ond mae’r tribiwnlys wastad yn gwneud ei orau glas i fynd i’r afael â cheisiadau yn brydlon.