Ysgrifenyddiaeth ac aelodau

Mae'r ysgrifenyddiaeth a’r aelodau yn cydweithio ond yn gwneud dyletswyddau gwahanol wrth ymdrin â cheisiadau.

Ysgrifenyddiaeth

Mae’r ysgrifenyddiaeth yn gyfrifol am weinyddiaeth y tribiwnlys. Mae’r ysgrifenyddiaeth yn:

  • ymdrin â phob ymholiad ffôn ac ysgrifenedig
  • cofrestru’ch cais
  • rhoi gwybod i chi am gamau pwysig yn y broses fel pryd a ble y cynhelir y gwrandawiad.

Cysylltwch â ni os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano ar y wefan hon neu os yw unrhyw beth yn aneglur.

Aelodau

Cadeirydd y tribiwnlys yw arweinydd barnwrol TTA Cymru. Mae’r cadeirydd yn gyfrifol am yr aelodau ac am benderfyniadau’r tribiwnlys. Mae gan y tribiwnlys aelodau panel sydd â gwybodaeth a phrofiad ym meysydd ffermio, draenio a thirfeddiannaeth yng Nghymru.

Penodir y cadeirydd gan yr Arglwydd Ganghellor a rhaid iddo/iddi fod yn fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr ag o leiaf saith mlynedd o brofiad. Penodir aelodau’r panel gan yr Arglwydd Ganghellor hefyd.

Rheolir gwrandawiadau’r tribiwnlys gan y cadeirydd neu’r dirprwy gadeirydd, a rhaid i’r unigolyn hwnnw feddu ar gymhwyster cyfreithiol hefyd. Bydd yn ysgrifennu penderfyniadau, yn rhoi gwybod am ohiriadau ac yn pennu cyfarwyddiadau os oes angen. Mae aelodau’r panel yn mynychu gwrandawiadau hefyd.