Apelio yn erbyn penderfyniad y Tribiwnlys

Gellir gwneud cais am adolygiad neu apêl yn erbyn penderfyniad gan dribiwnlys ar sail gyfyngedig.

Mae ein penderfyniad yn derfynolm. Os credwch fod yna broblem dechnegol gyda’r penderfyniad a sut y cafodd ei wneud, gallwch ofyn i ni adolygu’r penderfyniad. Ni fyddwn yn adolygu ein penderfyniad oherwydd eich bod yn anfodlon â’r penderfyniad. Mae’n rhaid i ni dderbyn eich cais ysgrifenedig am adolygiad o’r penderfyniad o fewn 28 diwrnod calendr i ddyddiad y llythyr a anfonwyd gennym gyda’r penderfyniad.

Os ydych chi’n meddwl bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith, gallwch apelio i Siambr Diroedd yr Uwch Dribiwnlys. Mae gwybodaeth am gyflwyno apêl a’r terfyn amser perthnasol ar gael ar wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (HMCTS) neu gysylltu â HMCTS:

Upper Tribunal (Lands Chamber)
45 Bedford Square
London
WC1B 3DN

Ffôn: 020 7612 9710
Ffacs: 020 7612 9723
Typetalk: 18001 020 7612 9710
E-bost: lands@hmcts.gsi.gov.uk

Dolen defnyddiol:

Cyfiawnder (dolen allanol - Saeneg yn unig)