Ein targedau

Rydym yn ceisio darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth o safon uchel sy’n canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr y tribiwnlys.

Bydd ein targedau yn ein helpu i gyflawni hynny ac i fonitro ein perfformiad.

Rydym yn mesur ein perfformiad yn gyson yn erbyn targedau, a rhoddir cofnod o’n perfformiad yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer y tribiwnlys.

Mae defnyddwyr y tribiwnlys hefyd yn cael cyfle i gwblhau gwiriad bodlonrwydd cwsmeriaid ar ddiwedd y broses er mwyn rhoi adborth ar ein gwasanaeth.

Dyma’n ffigurau perfformiad ar gyfer y cyfnod Ebrill 2014 – Mawrth 2015:

  • Cofrestru 
    • 95% o’r holl geisiadau lle nad oes angen rhagor o wybodaeth na chamau gweithredu, i’w cofrestru o fewn 10 diwrnod gwaith o’u derbyn
    • Cyrhaeddwyd y targed mewn 100% o achosion
    • Mewn 95% o’r holl achosion lle na allwn gofrestru’ch cais, byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn y cais er mwyn rhoi gwybod i chi beth fyddwn yn ei wneud nesaf
    • Cyrhaeddwyd y targed mewn 100% o achosion
  • Adroddiadau Annibynnol
    • 95% o’r holl adroddiadau draenio i’w hanfon i bartïon o fewn 10 diwrnod gwaith o’u derbyn
    • Cyrhaeddwyd y targed mewn 100% o achosion
  • Gwrandawiadau
    • 95% o Hysbysiadau o Wrandawiadau i’w hanfon 14 diwrnod cyn y  gwrandawiad
    • Cyrhaeddwyd y targed mewn 100% o achosion
  •  Cyflawni
    • Byddwn yn cyhoeddi 95% o’n penderfyniadau o fewn 30 diwrnod gwaith i’r gwrandawiad
    • Cyrhaeddwyd y targed mewn 75% o achosion
    • Byddwn yn ceisio clywed 75% o apeliadau o fewn 18 mis i’w cofrestru
    • Cyrhaeddwyd y targed mewn 100% o achosion