Trefniadau swyddfa'r Tribiwnlys
Mae’r tribiwnlys yn parhau i weithio o bell, gyda mynediad cyfyngedig at eitemau a anfonir trwy’r post. Os yn bosibl, gofynnwn i chi anfon unrhyw ddogfennau sydd eu hangen ar y tribiwnlys (yn cynnwys ffurflenni cais a datganiadau ysgrifenedig) trwy e-bost i AgriculturalLandTribunalWales@llyw.cymru.
Os nad yw hyn yn bosibl, dylech gysylltu â swyddfa’r tribiwnlys ar 0300 025 9809 i wneud trefniadau eraill.
Mae’r tribiwnlys yn rhestru gwrandawiadau fel arfer. Serch hynny, dylech nodi fod mwyafrif yr achosion yn cael eu rhestru’n rhithiol, yn defnyddio llwyfan fideo y Tribiwnlys.
Rydym yn ymdrin ag anghydfod sy'n ymwneud â:
Cytundebau tenantiaeth
- Rhybudd i ymadael â daliad
- Olyniaeth yn dilyn marwolaeth
- Olyniaeth yn dilyn ymddeoliad
Amaethyddol
- Hwsmonaeth wael
- Llosgi grug neu laswellt
- Cyfarpar sefydlog
- Gwelliannau hirdymor
- Gardd fasnachol
Ein cefndir
Mae TTA Cymru, ei aelodau a'i benderfyniadau yn annibynnol ar y Llywodraeth. Llywodraeth Cymru sy'n darparu cymorth gweinyddol a chyllid ar gyfer y tribiwnlys.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth rydych yn chwilio amdano.
Ymweld â safle
Gaill y Tribiwnlys ymweld â thir sy’n eiddo i ac yn cael ei feddiannu gan unrhyw barti neu dir sy;n berthnasol i achos.